Ffydd yn gweithredu
Beth yw gwir ystyr bod yn fudiad Catholig?
Mae gwaith CAFOD yn un o’r ffyrdd a ddefnyddia’r Eglwys i fynegi a chyflawni ei chred mewn urddas dynol a chyfiawnder cymdeithasol. Mae wedi’i ysbrydoli gan yr Ysgrythur ("i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion," Luc 4:18), gan Ddysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig a chan brofiadau a gobeithion y cymunedau tlawd, ffiniol, sy’n aml dan orthrwm ac y mae’n eu cefnogi.
Gan fwyaf, mae CAFOD wedi’i ariannu a’i gefnogi gan y gymuned Gatholig yng Nghymru a Lloegr i roi cymorth i gymunedau tlawd, waeth beth yw eu cred. Mae’n gweithio i gyflawni gwerthoedd yr Efengyl – o fewn a thu hwnt i’r Eglwys – gan gynnwys:
Mae pleserau a gobeithion, galar a pryderon pobl yr oes hon, yn enwedig y rheiny sy’n dlawd neu’n dioddef mewn unrhyw ffordd, hefyd yn bleserau a gobeithion, galar a phryderon dilynwyr Crist.
- gofal am ein cymdogion a lles y cenedlaethau sydd i ddod
- gwasanaethu er lles pawb yn gyffredinol i’w galluogi i ddatblygu’n gyfartal
- ymladd am gyfiawnder cymdeithasol a sicrhau bod anghenion sylfaenol pawb yn cael eu bodloni
- gweithredu ar sail angen, nid trachwant, a gweithredu mewn undod â’r rheiny sy’n byw mewn tlodi
- hybu gwerthoedd urddas dynol, cymuned, stiwardiaeth a chyfanrwydd y greadigaeth.
Mae CAFOD yn ymarfer yr undod a’r cymundeb y saif yr Eglwys amdanynt, ac yn ymdrechu am fyd sydd wedi’i adeiladu ar gyd?ddibyniaeth, cydymddibyniaeth a cydrannu, lle nad yw gwaharddiad, ecsbloetio na thrachwant yn bod.
Mae CAFOD yn falch o’i hunaniaeth fel mudiad Catholig, yn ffyddlon i ddysgeidiaeth Gatholig ac wedi’i ysbrydoli gan yr ysbrydolrwydd a’r byd-olwg sy’n tarddu o’r ffydd Gatholig.

![Ym Mrasil, mae miliynau o deuluoedd gwledig heb dir ac yn newynu oherwydd na allant dyfu bwyd. [Paul Smith]](/var/storage/images/media/cafod/images/latin_america_caribbean/brazil/brasil_families_welsh/5293-1-eng-GB/brasil_families_welsh_medium.jpg)


