CAFOD: Pwy ym ni
CAFOD yw’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor.
CAFOD tramor yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr ydyn, a bu’n ymladd tlodi yn y gwledydd datblygol ers 1962.
Mae’n credu fod gan bawb dynol yr hawl i urddas a pharch, ac mai rhodd i’w rhannu’n gyfartal rhwng dynion a merched, beth bynnag eu hil, eu cenedl neu eu crefydd, yw adnoddau’r byd.
Mae CAFOD yn aelod o Ffederasiwn Rhyngwladol Caritas, rhwydwaith byd-eang o fudiadau cymorth a datblygu Catholig. Mae’n gweithio am fyd lle:
- y bydd pethau da’r greadigaeth yn cael eu rhannu gan bawb
- y perchir hawliau ac urddas pob person
- na fydd ein bywydau’n cael eu rheoli gan drachwant mwyach
- na waherddir neb
- y clywir lleisiau cymunedau tlawd a’u hystyried
- y bydd bwyd, lloches, dŵr glan, gofal iechyd, addysg a bywoliaeth gan bawb.
Tlodi byd-eang
- Mae chwarter o bobl y byd – 1.3 biliwn o bobl – yn byw mewn tlodi enbyd.
- Nid yw ymron i 800 miliwn o bobl yn cael digon o fwyd ac mae oddeutu 500 miliwn yn dioddef o ddiffyg maeth cronig.
-
O’r 42 miliwn o bobl ledled y byd sy’n byw gydag HIV ac AIDS – clefyd sy’n cael ei fwydo gan dlodi – mae tros 93 y cant yn byw mewn gwledydd datblygol.
Gwaith penderfynol asiantaethau fel CAFOD sydd wedi helpu i roi tlodi yn y trydydd byd yng nghanol yr agenda wleidyddol ar ddechrau’r mileniwm newydd.
Canghellor y Trysorlys, Gordon Brown - Un y cant o incwm y byd yw cost dileu tlodi byd-eang.
- $133 biliwn yw gwir gyfoeth y deg biliwnydd cyfoethocaf – tros 1.5 gwaith cyfanswm incwm cenedlaethol y gwledydd mwyaf annatblygedig.
- Byddai cymorth dyled effeithiol i’r 20 gwlad dlotaf yn costio $5.5 biliwn – yn gyfwerth â chost adeiladu EuroDisney.
Ffynhonnell: Rhaglen Ddatblygu y Cenhedloedd Unedig
CAFOD wrth ei waith
- Tyfodd CAFOD o fenter a ymgymerwyd gan ferched Catholig ym 1960 ac fe’i sefydlwyd yn elusen ym 1962 gan Esgobion Cymru a Lloegr.
- Gwêl CAFOD ei waith fel partneriaeth rhwng Catholigion yng Nghymru a Lloegr a chymunedau yn y Trydydd Byd. Ar hyn o bryd mae CAFOD yn ariannu tua 1,000 o brosiectau a rhaglenni mewn 64 o wledydd.
- Mae CAFOD yn gweithio fel rhan o’r Mudiad Cyfiawnder mewn Masnach yn y DU i ddatgelu sgandal megis y ffaith bod rheolau masnach y byd yn dwyn £1.3 biliwn oddi ar y gwledydd tlawd bob dydd – 14 gwaith yn fwy na’r cymorth a dderbyniwyd.
- Mae’r rhan fwyaf o incwm CAFOD (rhwng dwy ran o dair a thri chwarter) yn dod o’r gymuned Gatholig yng Nghymru a LLoegr.

![Gezim Harifi (4, chwith) gyda’i frawd Denis (9, canol) ac Emra Aliu (7) yn aneddiad Roma yn Kombinat, Albania. [Simon Rawles]](/var/storage/images/media/cafod/images/eastern_europe/albania/roma_yn_kombinat_albania/5839-1-eng-GB/roma_yn_kombinat_albania_medium.jpg)


