Big Deal - take action with us

Yr hyn y mae CAFOD yn ei wneud

Mae Constantino Pereira Vicente, 45, yn aelod o grðp ffermwyr Hadomi Malu, a ariennir gan CAFOD, yn Suai, Dwyrain Timor. [Jim Holmes]
Mae Constantino Pereira Vicente, 45, yn aelod o grðp ffermwyr Hadomi Malu, a ariennir gan CAFOD, yn Suai, Dwyrain Timor. [Jim Holmes]

Mae CAFOD yn codi arian oddi ar y gymuned Gatholig yng Nghymru a Lloegr, llywodraeth y DU a’r cyhoedd fel ei fod yn gallu:

  • hyrwyddo datblygiad tymor hir
  • ymateb i argyfyngau
  • dynodi achosion tlodi a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ohonynt
  • siarad ar ran cymunedau tlawd
  • hybu datblygiad dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn dystiolaeth i’r ffydd Gristnogol a gwerthoedd yr efengyl.

Datblygiad

Mae CAFOD yn gweithio gyda chymunedau lleol mewn 64 o wledydd i’w helpu i gyflenwi eu hanghenion eu hunain. Gwna hyn drwy gyfrwng mwy na 500 o fudiadau partner – mudiadau lleol ymddiriedir ynddynt ac sydd wedi eu staffio gan bobl leol sy’n gweithio i leihau tlodi.

Mae partneriaid tramor CAFOD yn gweithio ar:

  • ddatblygiad tymor hir: gwella argaeledd bwyd a dulliau ffermio, helpu i ddarparu gwell lloches, dŵr, gofal iechyd ac addysg, i ddatblygu bywoliaethau gwell a gwella incwm.
  • lobio ac ymgyrchu i wireddu hawliau dynol sylfaenol, gan gynnwys hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol megis yr hawl i dir neu gyflog dda ac amodau gwaith.
  • gymorth mewn argyfwng: helpu pobl sydd dan effaith gwrthdaro a thrychinebau megis sychder, llifogydd a phrinder bwyd. Mae’n darparu cymorth argyfwng – bwyd, lloches, gofal iechyd – lle y bo hynny’n bosibl.

Ymgyrchu

Mae’ch undod yn rhoi cryfder a gobaith a dewrder i bobl Mexico. Mae’r system fasnach ryngwladol annheg yn cyfrannu at y ffaith bod 800 miliwn o bobl yn newynu heddiw. Dyma sgandal na ellir caniatáu iddo.

Partner CAFOD, Sergio Cobo, Mehefin 2002.

Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn ymgyrchu gyda CAFOD i herio’r strwythurau a’r polisïau sy’n cadw pobl yn dlawd.

Mae ymgyrchwyr yn gwneud hyn drwy ysgrifennu at Asau a gweinidogion y llywodraeth, drwy fynychu protestiadau heddychlon, lobïo llywodraethau a chyrff rhyngwladol perthnasol megis yr Undeb Ewropeaidd, a thrwy ofalu bod eraill yn eu cymunedau lleol yn ymwybodol o’r anghyfiawnderau y mae’n rhaid eu dilyn.

Lobïo ac eiriolaeth

Mae tîm polisïau CAFOD wedi cyhoeddi ymchwil a dadansoddiadau ar faterion mor wahanol â masnach annheg, dyled, llafur plant a ffrwydron tir.

Mae’n cynnig awgrymiadau ar sut y gall polisïau llywodraethau, busnesau a chyrff rhyngwladol megis Banc y Byd a Mudiad Masnach y Byd gael effaith bositif yn hytrach nag un negyddol ar gymunedau tlawd.

O le y daw’r arian

Mae CAFOD yn codi arian drwy Ddyddiau Ymprydio yn ystod y Grawys a Diolchgarwch, drwy apêl Adfent a thrwy gynlluniau codi arian tymor hir megis Heddiw, Yfory, Gyda’n Gilydd. Mae hefyd yn cael arian drwy gymunroddion, rhoddion yn dilyn apeliadau argyfwng a grantiau gan lywodraeth y DU a chyrff eraill megis yr Undeb Ewropeaidd.

Addysg

Mae tîm Addysg CAFOD yn darparu adnoddau a chefnogaeth i gannoedd o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru a Lloegr, yn eu helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth o faterion datblygu.

Trwy gysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol, mae CAFOD yn darparu dealltwriaeth a syniadau am weithredu ar faterion mor amrywiol â masnach, globaleiddio, yr amgylchedd a milwyr sy’n blant, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu teimladau o gyfrifoldeb a dinasyddiaeth fydol.

Gwirfoddoli

Mae CAFOD wedi ymrwymo’n gadarn i weithio gyda gwirfoddolwyr mewn partneriaeth. Mae gwirfoddolwyr yn cyflawni gwaith pwysig ar ran CAFOD ledled Cymru a Lloegr.

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio trwy swyddfeydd rhanbarthol CAFOD i weithio fel Cysylltiadau Plwyfol neu mewn ysgolion, i helpu pobl ifanc ddeall materion datblygu anodd. Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio hefyd i ymgyrchu ac i ennyn sylw gan y cyfryngau ar gyfer gwaith CAFOD yn lleol.


take action Rss Feed
Logo used by eBay to show a seller is donating a percentage of selling price to charity [eBay]

Support CAFOD on eBay

Do you ever sell items on eBay? If so, you can register to donate a percentage of your item’s final selling price to CAFOD. You can register to donate anything from 10% to 100% of your item's final selling price

Gabriel Murwa and his wife with their last remaining cow from a herd of 100. The others have all died. [Richard Wainwright]

Last chance action on the Climate Bill

MPs are voting on the Climate Change Bill in October - we still need them to push for the UK to cut its emissions by at least 80%
Please email your MP now

The CAFOD-funded National Federation of Fishworkers organises fishermen to defend their rights [Nithila Mariampillai/HUDEC]

Direct Debit

Could you live on 99% of your income? What could the other 1% do for people living in extreme poverty?

Give regularly. Transform lives.

Published on 15/12/2004, last updated on 15/12/2004
sign-up for e-news

Our e-news choices
Privacy statement
special focus
Elena Rosemary & Maira Lisette from Palos Ralos, which was relocated to make way for the Entre Mares goldmine [Annie Bungeroth] Mining communities speak out

The people of Palos Ralos, Honduras, a focus of CAFOD’s Pure Gold? photo exhibition, lost homes and land to a destructive gold mine

ABOUT CAFOD